Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Mai 2023
Amser:
09.30 -
12.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13326
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Desmond Clifford, Llywodraeth Cymru Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Paula Walsh, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Haidee James (Ail Glerc) Rhea James (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Diogelu’r casgliadau cenedlaethol
2.1.1 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.
2.2 Effaith costau cynyddol
2.3 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
2.4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Trafod yr adroddiad drafft ar ganfyddiadau cychwynnol y Pwyllgor
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.
5 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: trafod y materion allweddol
5.1 Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yr ymchwiliad a chytunodd i drafod ymhellach mewn cyfarfod dilynol.
6 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: craffu ar waith y Prif Weinidog
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau atodol at y Prif Weinidog ar ôl y cyfarfod.
7 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: sesiwn dystiolaeth gyda’r Prif Weinidog
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau atodol at y Prif Weinidog ar ôl y cyfarfod.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniwyd y cynnig
8.1 O dan Reol Sefydlog 17.42, cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahardd y cyhoedd o ddechrau’r cyfarfod nesaf (25 Mai 2023).
9 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
10 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: trafod y dystiolaeth
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.